Tuesday 1 August 2017

Nid ydym wedi tanysgrifio i'r cynnwys rydych ei eisiau?

Mae Gwasanaethau Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor yn deall pa mor rhwystredig yw methu â gweld cynnwys rydych angen ei ddarllen. 

Ein nod yw darparu mynediad at gynnwys sy'n diwallu eich anghenion o ran ymchwil ac addysgu; rydym yn cynnal adolygiad o gyfnodolion pob blwyddyn mewn ymgynghoriad â staff academaidd, cynrychiolwyr llyfrgell, rheolwyr  colegau a deoniaid i argymell canslo tanysgrifiadau (yn seiliedig ar ddata ar gost a defnydd) a gwneud ceisiadau am adnoddau newydd.

Yn wyneb costau cynyddol cyfnodolion, mae'n fwyfwy pwysig bod ymchwilwyr yn ymwybodol o ffyrdd eraill o gael erthyglau testun llawn.

Os nad oes gan y llyfrgell eitem rydych ei hangen, a'i bod yn hanfodol i'ch ymchwil neu eich astudiaeth, gwnawn geisio ei fenthyca o lyfrgell arall.  Sylwer bod y Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau yn rhoi cymhorthdal tuag at y gwasanaeth hwn. Am ragor o fanylion, ewch i: https://www.bangor.ac.uk/library/using/docdel.php.en

Dyma rai ffynonellau eraill o erthyglau testun llawn:
  • Mae Google Scholar yn darparu cysylltiadau i destunau llawn pan fydd ar gael am ddim ar-lein, maent yn eu casglu o dudalennau personol awduron a chadwrfeydd prifysgolion, ond yn aml mae'r cysylltiadau yn mynd â chi i dudalen we'r cyhoeddwr sy'n gofyn i chi dalu er mwyn gweld y testun. 
  • Mae gan PubMed opsiwn LinkOut ar gyfer erthyglau, sy'n cynnwys fersiynau am ddim sydd ar gael mewn cadwrfeydd sefydliadol. 
  • Mae OpenDOAR yn gyfeiriadur awdurdodol i gadwrfeydd mynediad agored academaidd sy'n eich galluogi i chwilio ar draws cynnwys cadwrfeydd http://www.opendoar.org/search.php
  • Mae ScienceOpen yn gweithio fel casglydd yn dod â chynnwys mynediad agored at ei gilydd o ystod eang o gyhoeddwyr a llwyfannau yn cynnwys PubMed Central, arXiv a SciELO. Mae ScienceOpen hefyd yn cynnwys data am ddyfyniadau a defnydd, ac yn annog adolygu erthyglau gan gymheiriaid ar ôl cyhoeddi i ddileu rhagfarn. https://www.scienceopen.com/
Edrychwch hefyd ar yr adnoddau newydd hyn a allai eich helpu i gael mynediad am ddim a chyfreithiol i erthyglau sy'n rhaid talu amdanynt fel arfer:
  • Open Access Button – adnodd ffynhonnell agored rhad ac am ddim y gellir ei ddefnyddio ar-lein trwy'r wefan neu fel estyniad porwr i Chrome neu Firefox. Ar wefan Open Access Button https://openaccessbutton.org/ teipiwch yr URL, DOI, PMID ID, y teitl neu ddyfyniad o'r erthygl. Os yw'r erthygl ar gael, byddwch yn cael cyswllt i gael mynediad ati. Fel arall, os ydych wedi lawrlwytho'r estyniad ar gyfer Chrome neu Firefox, ewch i dudalen yr erthygl ar wefan y cyfnodolyn a chliciwch y botwm OA yn eich porwr, a fydd yn dangos a yw ar gael. Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn darllen am broject JISC newydd sy'n archwilio gwasanaeth newydd, a fyddai'n ymgorffori defnyddio Botwm Mynediad Agored yn y llif gwaith benthyg rhwng llyfrgelloedd/darganfod. Nod y project hwn yw: atal ceisiadau benthyg lluosog rhwng llyfrgelloedd am yr un erthygl; gwella profiad y defnyddiwr o'r broses benthyg rhwng llyfrgelloedd; cyfrannu at wneud mwy o erthyglau yn rhai mynediad agored; cynnig effeithlonrwydd o ran cost ac amser drwy wirio a yw ddeunydd y gofynnir amdano eisoes ar gael o dan amodau mynediad agored. https://www.jisc.ac.uk/rd/projects/supporting-inter-library-loans-with-the-open-access-button
  • Unpaywall - estyniad porwr newydd ei lansio a ddatblygwyd gan Impactstory. The browser extension can be downloaded for Chrome and Firefox and allows you to find free, full text versions of articles, where they exist. Gellir lawr lwytho'r estyniad porwr ar gyfer Chrome a Firefox ac mae'n eich galluogi i ddod o hyd i fersiynau testun rhydd, llawn o erthyglau, lle maent yn bodoli. Pan fydd Unpaywall wedi ei osod yn Google Chrome neu Mozilla Firefox, bydd tab gwyrdd neu lwyd yn ymddangos ar ochr y sgrin. Mae arwydd 'datgloi' gwyrdd yn golygu bod fersiwn am ddim o'r erthygl ar gael ac mae arwydd 'clo' llwyd yn golygu na lwyddwyd i ddod o hyd i fersiwn am ddim o'r erthygl. http://unpaywall.org/
Deunydd darllen pellach: