Daeth staff ymchwil, myfyrwyr ôl-radd a
staff cefnogi ynghyd ar 14 Chwefror i nodi wythnos Caru Data Rhyngwladol gyda phrynhawn o
sgyrsiau bywiog llawn gwybodaeth o dan y pennawd Straeon Data. Roedd y
cyfarwyddyd i'r cyflwynwyr yn syml: 10 munud ar unrhyw agwedd ar ddata
ymchwil. Yr hyn a gafwyd oedd
cyflwyniadau yn codi cwestiynau, mynd i'r afael â heriau a thrafod arloesi ym
maes Rheoli Data Ymchwil, i gyd yn dangos bywiogrwydd Rheoli Data Ymchwil yma
ym Mangor.
Agorodd Dr Dave
Perkins y cyflwyniadau gan ein diddori gyda detholiad o ddelweddau a gymerwyd
o'r byd o'n cwmpas. Eglurodd fod angen trosi darnau cyfrifiadurol er mwyn
trosglwyddo'r byd go iawn i'r byd digidol. Oherwydd natur y trosi hwn, ceir
elfen o aneffeithlonrwydd sy'n arwain mewn rhai achosion at ddelweddau picsel o
ganlyniad i chwyddo'r testun. Gorffennodd trwy ofyn y cwestiwn 'A yw hi'n
bwysig os nad yw cystal â'r byd go iawn?' A ydym yn fodlon derbyn yr
aneffeithlonrwydd hwn?
Roedd yn bleser
gennym groesawu cydweithwyr o Adnoddau Naturiol Cymru a rhoddodd Harriet
Robinson drosolwg gwych o ehangder a dyfnder y data sydd ar gael ganddynt.
Cesglir y data hwn gan Adnoddau Naturiol Cymru ac mae'n sicrhau bod
penderfyniadau a wneir am y byd naturiol yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.
Mae ganddynt sawl casgliad o ddata, gyda'r cwbl ar gael o dan Drwydded
Llywodraeth Agored, yn cynnwys: Recorder 6, Marine Recorder, Arc GIS, WIRS a
WISKI (hydrometreg a data telemetreg yn cymryd recordiadau bob 15 munud ar
draws miloedd o leoliadau). Gellir cael data Adnoddau Naturiol Cymru trwy Lle,
sef porth-geo a ddatblygwyd fel partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru ac
Adnoddau Naturiol Cymru, sydd ar gael yn: http://lle.gov.wales/home. Mae
Adnoddau Naturiol Cymru yn sicrhau y gellir cael hyd i ddata, mynd ato a'i
ailddefnyddio ac maent ar hyn o bryd yn gweithredu ar lefel agored 3*. Mae rhai
datblygiadau cyffrous ar y gweill. Maent yn bwriadu bod yn sefydliad Data trwy
Ddylunio sy'n cyrraedd lefel 5* o ran bod yn agored, gan wella'r dechnoleg ar
gyfer cyhoeddi data, arloesi wrth ddefnyddio data a dyhead i fynd yn Fyd-eang.
Bu Laurence
Jones, myfyriwr PhD yn Ysgol Busnes Bangor yn disgrifio'r mathau o ddata mae'n
eu defnyddio, y cronfeydd data ariannol y gall ymchwilwyr yn yr Ysgol Busnes
fynd atynt a'r modelau a ddefnyddir i ddadansoddi'r data maent yn eu cael. Yn
yr achos hwn nid yw data yn cael ei greu, ond caiff ei ddefnyddio a'i
ddadansoddi ar derfynellau cyfrifiaduron (y cyfeiriodd Laurence atynt yn
gellweirus fel y rhai a welir mewn ffilmiau fel The Big Short). Mae'r data hwn
cynnwys data am y farchnad stoc (bob dydd, bob eiliad, bob milieiliad), data am
statws credyd a data cwmnïau yn cynnwys mantolenni ariannol. Eglurodd sut y
bydd yn dadansoddi a dehongli'r data hwn a sut y bydd yn ymdrin ag allanolynnau
(arsylwadau penodol, Trimming, Winsorizing), o ystyried nad yw'r data bob amser
yn gywir 100%. Yna, gan ddefnyddio
modelau dilyniant, gallant reoli gwahanol bethau a all fod yn effeithio ar
newidynnau dibynnol, er enghraifft, yr effaith a all rheoleiddio ei gael ar
lwyddiant cwmnïau.
Cafwyd stori am bysgod gan Adel Heenan,
sef cymrawd ôl-ddoethurol newydd yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol. Cyn dod
i Fangor bu Adel yn gweithio ym Mhrifysgol Hawai'i yn casglu data ar gyfer y
National Oceanic and Atmospheric Administration (NOAA, adran masnach yr Unol
Daleithiau) yn monitro pysgod y riffiau cwrel ar draws y Môr Tawel. Ychwanegodd
Adel awyrgylch i'w chyflwyniad trwy ddangos fideo yn y cefndir o arolwg samplu
pysgod. Cynhyrchwyd set ddata anferthol
gan y project hwn a chyflwynwyd adroddiad am y canfyddiadau i Gyngres Unol
Daleithiau America. Cyhoeddodd yr
Arlywydd Obama yn 2012 gyfarwyddeb oedd yn gwthio'r agenda Data Agored yn yr
Unol Daleithiau. Roedd angen ymestyn mynediad i'r data hwn, sefydlu mesurau rheoli
ansawdd er mwyn sicrhau effeithlonrwydd o ran ymdrin â cheisiadau am ddata a
gwella'r drefn o archifo data. Roedd Adel yn argymell defnyddio GitHub a'r cwrs
addysgol agored Reproducible Research sydd ar gael trwy Coursera.
Cafwyd egwyl hanner ffordd drwy'r sesiwn
gyda lluniaeth, cyfle i ofyn cwestiynau a rhwydweithio yn ogystal ag annog
cyfraniadau i'n Haddewid Caru Data a chalon datblygu data. Gofynnwyd i bawb
addo un peth roeddent yn bwriadu ei wneud gyda'u data ymchwil ac awgrymu pa
ddatblygiadau yr hoffent eu gweld yn y brifysgol mewn perthynas â rheoli data
ymchwil.
Dechreuodd yr Athro Jonathan Roberts yr
ail hanner gyda'r neges caru data caru delweddu.
Adroddodd bedair stori sydd wedi arwain at
bedair gwers am reoli data ymchwil yn dda fel a ganlyn:
- Diffinio'r broblem
- Cynllunio a chreu dewisiadau eraill
- Meddwl yn feirniadol
- Asesu canlyniadau gyda defnyddwyr.
Mae Jonathan, ynghyd â Panos Ritsos a Chris
Headleand, wedi cyhoeddi llyfr o'r enw
Five Design-Sheets: Creative Design and Sketching for Computing and
Visualisation, sy'n arwain y darllenydd trwy fraslunio fel ffordd o weld beth
yw'r broblem a chreu ateb.
Ymunodd Graham Worley â ni i siarad am y project SEACAMS 2 newydd gyda'r
bwriad o sicrhau bod 20TB o ddata ar gael i'r Diwydiant Ynni Adnewyddadwy'r
Môr. Maent wedi creu iMARDIS, system gwybodaeth data môr integredig, fel y bod
y data hwn ar gael. Arwyddair y project
yw “Mesur unwaith, defnyddio sawl gwaith". Mae'n ymadrodd sy'n cwmpasu'r symudiad at
ddata agored. Eu nod yw cynnig gwasanaeth lawrlwytho data, datblygu cynnyrch
data a chreu offer dadansoddi a modelu.
Maent wedi cynllunio seilwaith sy'n cynnig mwy na dim ond storfa ddata,
mae'n cynnig metadata gronynnol, mynediad dynamig, y gallu i adfer is-setiau
o'r data a defnyddio APIs ar gyfer mynediad rhaglennol i'r data i gael adborth
amser real. Maent hefyd wedi cynllunio rheolwr metadata ac wedi prosesu tua 4TB
o'r data. Y rhan anoddaf o'r daith hyd
yma oedd yr agwedd trwyddedu data trwy geisio sicrhau bod y data mor agored â phosibl
ond gan gadw cydbwysedd ochr yn ochr ag ystyriaethau academaidd.
Yr ail fyfyriwr PhD i roi cyflwyniad oedd Cameron Gray o'r Ysgol
Cyfrifiadureg. Trwy ddefnyddio dadansoddiadau Learner, mae wedi gallu asesu
cyfradd cadw myfyrwyr yn seiliedig ar y 3 wythnos gyntaf o bresenoldeb ac wedi
cynhyrchu model rhagfynegol. Gellir defnyddio’r model hwn i adnabod pa fyfyrwyr
sydd mewn perygl o adael a ffurfio sail ar gyfer strategaethau ymyrryd. Gall y data hefyd adnabod unrhyw
ddigwyddiadau a allai sbarduno cwymp mewn presenoldeb. Bydd hyn yn arwain at
wneud penderfyniadau wedi'u llywio gan ddata.
Y siaradwr olaf yn y digwyddiad cyntaf hwn am
Straeon Data oedd Dr Panos Ritsos a siaradodd am ddelweddu y tu hwnt i'r
cyfrifiadur, y peth mawr nesaf? Mae realiti cymysg/estynedig a Rhyngrwyd Pethau
yn mynd i newid ein canfyddiad o ofod gwybodaeth a ffisegol. Gall data ddod yn
fwy treiddiol, ac mae hyn yn digwydd. Gallai hyn arwain at ddiwedd y
cyfrifiadur wrth i ni symud at dechnolegau mwy symudol. Mae'n gweithio ar
ddelweddu synthetig, cynrychioliadau data amser real mewn gofod ffisegol.
Ymestyn yr amgylchedd trwy ryngweithio, ail-weithio gwrthrychau. Mae hyn yn
arwain at fath gwahanol o fod yn agored, cyfleustod agored. Roedd yn annog
unrhyw un sydd â diddordeb mewn delweddu data i gysylltu.
Hoffem ddiolch i'r holl siaradwyr am eu cyfraniad i ddigwyddiad bywiog a
diddorol. Rhannwyd syniadau da a
thynnwyd sylw at arferion da. Roedd y
digwyddiad yn tynnu sylw at gwmpas ac amrediad y data sy'n cael ei gynhyrchu,
ei drin a'i reoli yn y Brifysgol. Bydd
cael gwell dealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd yn ymarferol yn ein helpu i wella
sut mae'r brifysgol yn cefnogi datblygiadau rheoli data ymchwil yn y dyfodol.
Cynhaliwyd y digwyddiad hwn yn ystod Carnifal Cynaliadwyedd Bangor, gyda'r
bwriad o arddangos ystod ac amrywiaeth y digwyddiadau sy'n gysylltiedig â
chynaliadwyedd a gynhelir mewn mis arferol ym Mhrifysgol Bangor. Mae rheoli data ymchwil yn dda yn hanfodol i
sicrhau bod data ar gael yn y tymor hir. Mae’n hanfodol hefyd bod data, sy'n
hollbwysig i ymdrechion cynaliadwyedd byd-eang, yn cael ei rannu'n agored ar
gyfer cydweithio a lles cyffredinol. Nid
yw Prifysgol Bangor yn gweithio ar ben ei hun, a dylem fod yn manteisio ar
ddatblygiadau mewn mentrau Rheoli Data Ymchwil ar draws y sector addysg uwch yn
y DU i gael atebion cynaliadwy ledled y DU.
Diolch i Dr James
Wang, Ysgol Peirianneg Electronig, a engrafodd y tocynnau Data yma ar gyfer ein
cyflwynwyr.