Wednesday 25 October 2017

Cyhoeddi Mynediad Agored ym Mangor: Ystyriaethau ar ein cynnydd gan Dr Michelle Walker ar gyfer Wythnos Mynediad Agored 2017

Wrth i ni agosau at Wythnos Mynediad Agored Rhyngwladol arall, dyma'r amser i ni feddwl am yr hyn a gyflawnwyd dros y flwyddyn ddiwethaf ac edrych ymlaen at beth nesaf ym mynediad agored yma ym Mangor. Rhoddodd ein neges flog ar gyfer Wythnos Mynediad Agored 2016 adolygiad manwl o berthynas Bangor â mynediad agored. Mae meddwl am y blog hwn wedi amlygu natur flaengar rhai o'n haelodau staff, er ein bod yn teimlo weithiau bod ein cynnydd yn araf. Ond ymddengys ein bod wedi gwneud camau cadarnhaol iawn y llynedd.

Ym mis Ebrill 2016, dechreuom brosiect traws-sefydliadol i weithredu PURE fel ein System Gwybodaeth Ymchwil Gyfredol (Current Research Information System CRIS) a'n gadwrfa sefydliadol. Mae dipyn o ffordd i fynd hyd nes y byddwn yn rhoi'r system ar waith yn llawn gan ein bod wedi bod yn bwrw ymlaen â chyflwyno'r system yn raddol ers mis Ebrill 2016. Yn y cyfamser, rydym wedi mewnforio'r holl wybodaeth am allbwn ymchwil sydd eisoes wedi ei chofnodi gan y sefydliad ac wedi gwneud PURE yn gadwrfa sefydliadol. Rydym wedi hyfforddi oddeutu 400 aelod staff (staff academaidd, staff y gwasanaethau canolog a staff gweinyddol), mewn 43 o sesiynau hyfforddi gwahanol, ar sut i ddefnyddio PURE i ddiweddaru eu proffiliau, gan gysylltu â swyddogaethau'r gadwrfa.

Ar yr adeg hon y llynedd, roedd PURE yn teimlo fel newid cymharol newydd ac rydym wedi ymgorffori'r system, ond hefyd ffordd newydd o weithio. Bûm yn ailedrych ar ein hen gronfa ddata cyhoeddiadau yr wythnos o'r blaen ac ni allaf gredu faint o bethau sydd wedi newid. Nid yw hyn yn golygu bod y system PURE sydd gennym yn berffaith eto, ond mae'n gymaint gwell na'r hyn oedd gennym o'r blaen.

Mae symud i'n cadwrfa PURE wedi cyfrannu at y newidiadau o ran nifer yr eitemau yn ein cadwrfa a'r llif gwaith sy'n gysylltiedig â'i chynnal. Rydym wedi gweld cynnydd o 147% yn nifer yr eitemau testun llawn a gofnodwyd. Cyn dyfodiad PURE, roedd yr holl eitemau yn ein cadwrfa'n cael eu hychwanegu a'u gwirio â llaw gan staff y gadwrfa. Ers y newid, mae 68% o'r cofnodion wedi cael eu cofnodi gan staff academaidd. Rydym yn dal i wirio, ategu a dilysu pob cofnod (gyda'n tîm cadwrfa bychan) ond mae hwn wedi bod yn gam ymlaen cadarnhaol. Ni ellir priodoli'r holl newidiadau hyn i PURE yn unig. Mae gofynion mynediad agored REF wedi canolbwyntio sylw ac ymdrech a chynyddu'r angen am systemau canolog i fonitro'r holl ddatblygiadau hyn. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd mewn academyddion yn ychwanegu gwybodaeth gyhoeddi hanesyddol. Yn hanesyddol, o ganlyniad i ddiffyg staff, dim ond gwybodaeth gyhoeddi ein hacademyddion o 2000 ymlaen oedd y sefydliad yn ei chofnodi. Wrth symud at fetaddata a gofnodir gan awduron, rydym yn gweld ehangiad yn y ffrâm amser a nifer y cofnodion sydd gennym bellach.

Mae symud i system PURE wedi ein galluogi i ddechrau cysylltu'r holl ddata am y tro cyntaf. Rydym yn edrych ymlaen at ragor o ddatblygiadau cyffrous pan fyddwn yn cyflwyno'r porth uwch. Bydd hyn yn ein galluogi i ddelweddu llawer mwy o gynnwys i'r byd y tu allan nag y gallwn ar hyn o bryd a chaniatáu i ni rannu cynnwys ymchwil ar dudalennau gwe ysgolion gyda data o PURE. Bydd hefyd yn caniatáu i ni symud ein traethodau ymchwil o'u hen gartref yn ein cadwrfa ePrints i system PURE. 

Mewn amrywiol gynadleddau, gweminarau a rhestrau postio dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r camau mae'r sefydliadau wedi eu cymryd yn y maes mynediad agored wedi dod yn gynyddol amlwg. Mae'n galonogol clywed am y cynnydd yn y cynnwys mynediad agored a'r eitemau a gofnodir yn y cadwrfeydd mewn rhai sefydliadau ac mae hefyd yn gwneud lles codi ymwybyddiaeth am y trafferthion rydym i gyd yn eu hwynebu. Mae'n gadarnhaol bod camau o'r fath yn cael eu gwneud tuag at fynediad agored, ac mae hyn oll yn ychwanegu at ddatblygiad cyffredinol yr agenda mynediad agored.  Mae'r datblygiadau hyn yn golygu bod mynediad agored ym Mangor yn edrych yn llawer mwy cadarnhaol nag erioed o'r blaen erbyn hyn.

No comments:

Post a Comment