Tuesday 1 August 2017

Cael trafferth gweld testun llawn erthygl cyfnodolyn?

Yr achos mwyaf cyffredin o drafferthion oddi ar y campws yw dilyn cyswllt allanol neu fynd yn uniongyrchol i dudalen we cyhoeddwr.  Gallwch weld holl lyfrau, cyfnodolion a chronfeydd data electronig y llyfrgell ar gyfrifiaduron oddi ar y campws, ond mae'n rhaid i ddarparwr yr adnoddau wybod eich bod yn aelod o Brifysgol Bangor.  Os ydych wedi cyrraedd gwe-dudalen y cyhoeddwr, chwiliwch am opsiwn i fewngofnodi trwy'r system fewngofnodi sefydliadol, Shibboleth neu UK Access Federation, ac yna dewiswch Brifysgol Bangor o'r rhestr. Sylwer os byddwch yn pori safleoedd cyhoeddwyr, byddant hefyd yn dangos teitlau nad ydynt wedi eu cynnwys yn ein tanysgrifiad.

Y ffordd orau o sicrhau eich bod yn cael y cynnwys testun llawn pan fyddwch oddi ar y campws yw dod o hyd i'r erthygl neu'r cyfnodolyn ym mheiriant chwilio'r llyfrgell ac yna dilyn y cyswllt at y cynnwys testun llawn.  Yn ddiofyn, bydd peiriant chwilio'r llyfrgell yn dangos eitemau sydd â mynediad testun llawn yn unig. (Gallwch hefyd dicio'r blwch "Dangos canlyniadau heb fynediad testun llawn hefyd"). Os nad ydych ar y campws, cliciwch ar y cyswllt yn y blwch "gweld ar-lein" a bydd yn gofyn i chi deipio eich enw defnyddiwr a chyfrinair Prifysgol Bangor cyn mynd â chi at y testun llawn. Mae rhai cyfnodolion ar gael i ni gan nifer o wahanol ddarparwyr, felly byddwch yn gweld nifer o ddewisiadau gyda gwahanol ddyddiadau; cofiwch sicrhau eich bod yn dewis y cyswllt cywir.

screenshot o'r catalog y llyfrgell yn dangos cyfnodolyn gyda mynediad i'r testun llawn yn ceal ei ddarparu gan wahanol cyhoeddwyr gyda gwahanol ystodau dyddiad












Os ydych yn chwilio ar gronfa ddata lyfryddol megis Web of Science neu ProQuest, bydd rhaid i chi ddilyn y cysylltiadau testun llawn i weld y testun llawn, nid ydym yn tanysgrifio i'r holl gynnwys y byddwch yn ei weld ar gronfa ddata lyfryddol. 

Os ydych yn chwilio gyda Google Scholar, rydym wedi galluogi llawer o'r cysylltiadau testun llawn at y cynnwys sydd yn ein tanysgrifiad; ar y campws, byddwch yn gweld cysylltiadau "testun llawn ym Mangor".  Er mwyn galluogi hyn ar eich cyfrifiadur eich hun oddi ar y campws, ewch i hafan Google Scholar, dewiswch "cysylltiadau llyfrgell", yna chwiliwch am Brifysgol Bangor ac yna ei dewis.  Nid ydym wedi galluogi'r holl gysylltiadau cynnwys, felly mae'n syniad da gwirio peiriant chwilio'r llyfrgell am y cynnwys; hefyd, efallai y bydd yr erthygl gennym mewn print hefyd.

Os ydych yn credu y dylem fod â mynediad at erthygl, ond nid yw'n gweithio, cysylltwch â ni (manylion isod) gyda manylion llawn yr erthygl (awdur, teitl, cyfnodolyn, rhifyn/cyfrol, blwyddyn, rhifau tudalennau) fel y gallwn edrych i mewn i'r mater.  Mae gwefannau pob cyhoeddwr yn edrych ac yn ymddwyn ychydig yn wahanol a gall ein cysylltiadau fod wedi torri, felly cysylltwch â ni unrhyw bryd byddwch yn cael trafferth.

Am ragor o gymorth, cysylltwch â'r Tîm Cefnogaeth Academaidd ar libsupport@bangor.ac.uk