Friday 21 October 2016

Hanes diweddar cyhoeddi mynediad agored ym Mhrifysgol Bangor


Hoffem gyflwyno hanes byr am y gwaith o ddatblygu cyhoeddi mynediad agored ym Mhrifysgol Bangor ar y thema "Open in Action" ar gyfer Wythnos Mynediad Agored Rhyngwladol 2016.  Os hoffech anfon unrhyw sylwadau atom am yr erthygl hon neu os hoffech rannu eich myfyrdodau eich hun ynglŷn â chyhoeddi mynediad agored ym Mangor, cysylltwch â ni yn repository@bangor.ac.uk a byddwn yn cyhoeddi eich sylwadau ar y blog.

Mae'r erthygl yma yn egluro'r hyn sydd wedi bod yn digwydd ym Mangor, mae'r erthygl flaenorol yn rhoi llinell amser byr iawn o gyhoeddi mynediad agored yn y DU.

Yn 2005, dechreuodd Claire Davis, Rheolwr Asesu Ymchwil (y Swyddfa Ymchwil a Menter) gronfa ddata mynediad caeedig mewnol i gofnodi'r holl waith a gyhoeddwyd gan staff Prifysgol Bangor (datblygwyd y gronfa wedyn gan y Swyddfa Ymchwil a Menter a Gwasanaethau TG fel y system CRIMS mewnol).  Roedd y gronfa ddata cyhoeddiadau yn hanfodol at ddibenion asesu ymchwil ac adroddiadau allanol, ac roedd yn cynnwys cofnodion llyfryddol manwl, wedi eu dilysu a'u cyfoethogi, ond nid oedd yn cynnwys mynediad agored i gopïau testun llawn. Dechreuwyd project i fwydo'r cofnodion llyfryddol i gadwrfa DSpace gyda'r nod o ychwanegu copïau testun llawn lle bo hynny'n bosib, ond oherwydd diffyg staffio a buddsoddiad nid oedd modd cysylltu'r cofnodion â chopïau testun llawn ar y pryd.

Yn 2012, sefydlodd Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor weithgor ar gyhoeddi mynediad agored; lansiwyd cyfres newydd o we-dudalennau llawn gwybodaeth am fynediad agored; a drafftiwyd polisi cyhoeddi newydd ar gyfer y brifysgol oedd yn annog ymchwilwyr Bangor i gyhoeddi trwy fynediad agored.   Arweiniwyd y gwaith hwn gan Sue Hodges (Cyfarwyddwr  y Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau) a Tracey Middleton (Rheolwr Gwasanaethau a Datblygiadau Digidol erbyn hyn a Llyfrgellydd Adnoddau Electronig ar y pryd).

Yn 2013, gwnaeth Graham Worley (Cydlynydd Ymchwil, Gwasanaethau TG) a Dr Beth Hall (Llyfrgellydd Cefnogi Ymchwil, y Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau) adolygiad trylwyr o feddalwedd cadwrfa a chynnig y dylid symud tuag at gadwrfa E-prints mynediad agored yn hytrach na cheisio adfywio'r gadwrfa DSpace wreiddiol. (Roedd y penderfyniad hwn yn seiliedig i raddau helaeth ar ofynion yr ESRC ar gyfer rheoli data ymchwil o 1 Mai 2015 ymlaen).  Mewnforiwyd data o gronfa ddata cyhoeddiadau'r Swyddfa Ymchwil a Menter a'u bwydo i E-Prints.

Yn 2013, y flwyddyn gyntaf a gawsom gyllid grant bloc gan yr RCUK, roeddem yn anelu at sicrhau bod yr holl weithiau a gyllidwyd gan yr RCUK ar gael trwy fynediad agored trwy'r llwybr Aur gan nad oedd y llwybr Gwyrdd ar gael i ymchwilwyr Bangor tan 2014 pan lansiwyd y gadwrfa E-Prints newydd, sef eBangor.  Yn 2014, ymunodd Dr Michelle Walker a'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd ac Archifau mewn swydd newydd fel Rheolwr Cadwrfa a Data Ymchwil (roedd Michelle yn Swyddog Cyhoeddiadau yn y Swyddfa Ymchwil a Menter cyn hynny). Dechreuodd Michelle, ynghyd â Marjan Baas-Harmsma a fu'n gweithio ar y project dros gyfnod mamolaeth, y broses o gysylltu'r cofnodion llyfryddol â chopïau testun llawn yn y gadwrfa newydd, eBangor.

Mae hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth ymhlith staff academaidd ym Mhrifysgol Bangor o opsiynau cyhoeddi trwy fynediad agored a gofynion cyllidwyr wedi bod yn hanfodol.  Ers 2012, rydym wedi ymweld ag ysgolion a cholegau'r brifysgol, wedi arwain sesiynau hyfforddi trwy gyfrwng rhaglenni hyfforddi ysgolion i staff a myfyrwyr doethurol, wedi rhoi cyflwyniadau i Grŵp Tasg Strategaeth Ymchwil y brifysgol ac wedi parhau i eirioli dros fynediad agored ar bob cyfle.  Rydym hefyd wedi trefnu digwyddiadau blynyddol gyda siaradwyr gwadd gwych ar gyfer yr Wythnos Mynediad Agored Rhyngwladol.

Rydym wedi elwa o gytundebau rhwng JISC a nifer o gyhoeddwyr i wrthbwyso taliadau mynediad agored, yn enwedig SAGE o 2012 ymlaen.  Rydym hefyd wedi elwa o gynllun talebau mynediad agored y Gymdeithas Gemeg Frenhinol i'w tanysgrifwyr "pecyn Aur". Rydym yn parhau i drafod â chyhoeddwyr ynglŷn â gwrthbwyso costau mynediad agored wrth adnewyddu tanysgrifiadau.  Rydym yn gwneud defnydd o'r cytundeb mynediad agored rhagorol gyda Springer a byddem yn hoffi sicrhau mwy o gytundebau tebyg gyda chyhoeddwr eraill.
Mewn ymateb uniongyrchol i'r gofynion REF newydd ar gyfer mynediad agored, a fydd yn berthnasol i gyhoeddiadau o fis Ebrill 2016, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr eitemau a anfonir i'r gadwrfa. 

Yn ystod 2016 rydym hefyd wedi bod yn defnyddio PURE, system reoli gwybodaeth ymchwil traws-brifysgol.  Claire Davis (Swyddfa Ymchwil a Menter), Michelle Walker (Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau) a Graham Worley (Gwasanaethau TG) sy'n arwain y gwaith o roi'r system newydd hon ar waith ar draws y brifysgol. Mae PURE yn dod â gwybodaeth ymchwil o ffynonellau mewnol ac allanol ynghyd ac yn hwyluso dull wedi'i seilio ar dystiolaeth o ymdrin â strategaethau ymchwil a chydweithredu, ymarferion asesu, cydymffurfio â gofynion mynediad agored RCUK a HEFCE ac amlygrwydd gweithgaredd ymchwil cyfredol.  Rydym wedi symud pob cyhoeddiad ymchwil o eBangor i PURE.  Mae defnyddio PURE fel y feddalwedd newydd i'r gadwrfa yn ei gwneud yn haws i dîm y gadwrfa reoli'r llif gwaith, ac mae hefyd yn caniatáu i ymchwilwyr lwytho eu cyhoeddiadau eu hunain i'r system a rheoli eu proffil cyhoeddus eu hunain ar borth ymchwil y brifysgol http://research.bangor.ac.uk.

Eleni, ailysgrifennodd Dr Michelle Walker bolisi cyhoeddiadau brifysgol fel polisi mynediad agored ac fe'i cymeradwywyd gan Bwyllgor Gweithredu'r brifysgol ac rydym yn gobeithio y caiff pob erthygl mewn cyfnodolion a phob papur cynhadledd eu cyhoeddi trwy fynediad agored maes o law.

Rydym hefyd yn edrych ymlaen gyda diddordeb at ddatblygiadau mewn cyhoeddi llyfrau mynediad agored; rydym eisoes yn cefnogi'r cynllun "Knowledge Unlatched", lle mae nifer o lyfrgelloedd o bob cwr o'r byd yn rhannu'r taliad am un ffi teitl i gyhoeddwr, er mwyn i'r llyfr fod ar gael trwy fynediad agored.  Rydym hefyd wrthi'n ymchwilio i opsiynau cyhoeddi sefydliadol "mewnol", ac rydym eisiau sicrhau bod mwy o ddata ymchwil Bangor yn cael ei gyhoeddi trwy fynediad agored. 

Os nad ydych wedi eich argyhoeddi eto o fanteision cyhoeddi trwy fynediad agored, yna edrychwch ar yr adroddiad hwn ar y cynnydd yn y dyfyniadau o erthyglau mynediad agored: http://dx.doi.org/10.1371/journal.pbio.0040157 a gwyliwch yr ymchwilwyr hyn yn siarad am pam eu bod yn dewis cyhoeddi trwy fynediad agored: https://www.youtube.com/watch?v=g2JT23E1bRE&feature=related 

Cyfeiriadau:
Eysenbach, G., 2006. Cynnydd yn y dyfyniadau o erthyglau mynediad agored. PLoS Biol, 4(5), p.e157. http://dx.doi.org/10.1371/journal.pbio.0040157


Llinell amser fer o Gyhoeddi Mynediad Agored yn y Deyrnas Unedig


Mae'r neges blog hon yn rhoi llinell amser fer iawn o Gyhoeddi Mynediad Agored yn y Deyrnas Unedig a bydd y negeseuon nesaf yn y gyfres hon yn rhoi manylion am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd mewn perthynas â chyhoeddi Mynediad Agored ym Mhrifysgol Bangor.

Er mwyn amlygu'r ffaith fod rhannu ymchwil yn agored wedi bod yn norm mewn rhai disgyblaethau ers tro byd, beth am fynd yn ôl i 1991 pan ddatblygwyd archif ar-lein o bapurau ffiseg cyn eu hargraffu: arXiv.org.  Ers 1991, dros nifer o flynyddoedd mae'r mudiad Mynediad Agored wedi mynd o nerth i nerth ac yn 2001, arwyddodd 34,000 o ysgolheigion ledled y byd "Lythyr Agored at Gyhoeddwyr Gwyddonol" yn galw arnynt i sefydlu llyfrgell gyhoeddus ar-lein er mwyn i allbynnau ymchwil mewn meddygaeth a gwyddorau bywyd fod ar gael am ddim.  Arweiniodd hyn at sefydlu'r Public Library of Science (PLOS).  Yn 2002, cynhaliwyd Menter Mynediad Agored yn Budapest pan arwyddodd gwyddonwyr gytundeb i roi blaenoriaeth i gyhoeddi eu canfyddiadau mewn cyfnodolion mynediad agored; ac yn 2003, cyhoeddwyr Datganiad Berlin ynglŷn â Mynediad Agored at Wybodaeth yn y Gwyddorau a'r Dyniaethau.

Mae llyfrgelloedd academaidd wedi bod ar flaen y gad o ran hyrwyddo mudiad Mynediad Agored; yn bennaf oherwydd costau cynyddol beunyddiol cyhoeddwyr am danysgrifio ynghyd â chyllidebau llai y sefydliadau academaidd.  Ond câi hyn ei sbarduno hefyd gan swyddogaeth llyfrgelloedd yn hyrwyddo rhannu gwybodaeth er lles y cyhoedd yn ehangach.

Ers yn gynnar yn negawd cyntaf y mileniwm hwn, rydym wedi gweld cynnydd cyson yn nifer yr allbynnau ymchwil sy'n cael eu cyhoeddi mewn cyhoeddiadau mynediad agored gan academyddion yn y Deyrnas Unedig, a chynnydd yn nifer y cadwrfeydd sefydliadol sy'n rhoi opsiwn "Cyhoeddi Mynediad Agored Gwyrdd' i ymchwilwyr (sef rhoi llawysgrif y mae'r awdur yn fodlon â hi yn fyw yng nghadwrfa'r sefydliad wedi i gyfnod embargo'r cyhoeddwyr ddod i ben). Ar ddiwedd 2007, roedd gan OpenDOAR (rhestr o gadwrfeydd mynediad agored ledled y byd fel a ddarparwyd gan SHERPA y mae ei ansawdd wedi ei sicrhau) 1,009 o gadwrfeydd ar y gofrestr, erbyn mis Gorffennaf 2016 roedd y nifer honno wedi codi i 3,201 o gadwrfeydd ledled y byd (mae'r rhestr hon yn cynnwys cadwrfeydd pwnc-benodol a rhai sefydliadol).

Ym mis Mehefin 2012, cyhoeddodd y Finch Group (Gweithgor ar Ehangu Mynediad at Ganfyddiadau Ymchwil wedi eu Cyhoeddi, dan gadeiryddiaeth y Fonesig Janet Finch) eu hadroddiad terfynol a oedd yn cefnogi'r achos dros gyhoeddi mynediad agored trwy gyfrwng rhaglen gytbwys o weithredu, ac roedd argymhelliad yn benodol i gefnogi 'r "Llwybr Aur" tuag at fynediad agored.  Derbyniodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig bob un o argymhellion adroddiad Finch a gofyn i gyrff ariannu addysg uwch yn y Deyrnas Unedig ac i Cynghorau Ymchwil y DU (RCUK) weithredu ar yr argymhellion.  Mae polisi'r RCUK yn cefnogi'r llwybrau Aur a Gwyrdd tuag at fynediad agored, ond maent yn hyrwyddo'r llwybr aur yn bennaf drwy ddyrannu bloc o arian grant i bob sefydliad ymchwil yn y Deyrnas Unedig gan ddechrau ym mis Ebrill 2013.

Mae JISC wedi bod yn cefnogi'r sector yn llwyddiannus o ran cyhoeddi Mynediad Agored drwy gytuno â nifer o gyhoeddwyr i wrthbwyso ffioedd mynediad agored (ffioedd prosesu erthyglau) gyda thanysgrifiadau drud i becynnau o gyfnodolion. Ers mis Hydref 2015 daeth JISC Collections a Springer i gytundeb i ganiatáu i ymchwilwyr yn y Deyrnas Unedig gyhoeddi erthyglau mynediad agored mewn mwy na 1,600 o gyfnodolion Springer heb unrhyw gostau na rhwystrau gweinyddol

Ym mis Ebrill 2016, daeth polisi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr ar fynediad agored i rym, gan ei gwneud yn ofynnol bod ymchwilwyr yn rhoi mynediad agored at unrhyw erthyglau y maent eisiau eu cyflwyno i'r ymarfer asesu ymchwil nesaf. 
Cyfeiriadau:


Wythnos Mynediad Agored

Rhwng 24 a 30 Hydref 2016 cynhelir yr Wythnos Mynediad Agored Ryngwladol.
Thema'r Wythnos Mynediad Agored eleni yw “Open in Action”.  Gallwch ddarllen rhagor ar wefan yr Wythnos Mynediad Agored Ryngwladol:
http://www.openaccessweek.org/profiles/blogs/theme-of-2016-international-open-access-week-to-be-open-in-action

Byddwn yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ym Mhrifysgol Bangor yn ystod yr Wythnos Mynediad Agored:

24 Hydref 14.00-16.00: Ystafell Cledwyn 3/TCR3: Digwyddiad Agored ar Ddata Ymchwil Sensitif
Siaradwyr gwadd:
·         Yr Athro Mark Elliot, Athro Gwyddor Data, Prifysgol Manceinion a Rhwydwaith Anhysbysrwydd y DU (drwy gynhadledd fideo)
·         Dr Catrin Tudur Smith, Darllenydd mewn Ystadegau Meddygol, Prifysgol Lerpwl, teitl ei chyflwyniad: Egwyddorion arfer da ar gyfer rhannu data cyfranogwyr unigol o dreialon clinigol a ariennir yn gyhoeddus
Yn anffodus, cynhelir y sesiwn yma yn Saesneg yn unig
E-bost c.a.roberts@bangor.ac.uk i archebu lle

25 Hydref 2-3pm A1.01 adeilad Alun: sesiwn hyfforddi ôl-raddedig Cyhoeddi Mynedaid Agored
Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â cyhoeddi mynediad agored, gofynion cyllidwr, a sut i wneud eich erthyglau’n rhai mynediad agored ym Mangor. Cofrestrwch ar-lein ar <https://www.bangor.ac.uk/doctoral-school/training.php.en> neu anfonwch e-bost: pgr@bangor.ac.uk
Yn anffodus, cynhelir y sesiwn yma yn Saesneg yn unig, ond mae gwybodaeth Cymraeg ar gael

26 Hydref Mae Cledwyn Room 3 / TCR3: Sesiwn hyfforddi Staff: 2-3pm REF a Mynediad Agored
Bydd y sesiwn hon yn manylu ar y gofynion ar gyfer Mynediad Agored a'r REF nesaf i sicrhau cymhwysedd allbynnau i’w cyflwyno gan ddefnyddio system Rheoli Gwybodaeth Ymchwil y Brifysgol, PURE.
Yn anffodus, cynhelir y sesiwn yma yn Saesneg yn unig, ond mae gwybodaeth Cymraeg ar gael
E-bost c.a.roberts@bangor.ac.uk i archebu lle

Dyma wybodaeth am wythnosau Mynediad Agored y gorffennol:

Yn 2013 croesawom Phil Sykes (Llyfrgellydd Prifysgol ym Mhrifysgol Lerpwl a oedd yn cynrychioli'r Open Access Implementation Group a Research Libraries UK) a Ben Ryan (Uwch Reolwr Canlyniadau Ymchwil i'r Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol).
Yn ystod yr Wythnos Mynediad Agored Ryngwladol yn 2014, croesawom Ben Johnson (Cynghorydd Polisi Addysg Uwch i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr), Roger Tritton (a drafododd waith Casgliadau JISC yn archwilio modelau busnes potensial i fonograffau mynediad agored yn y dyniaethau a gwyddorau cymdeithas, a gwahoddwyd tri chyhoeddwr i drafod eu hopsiynau ar gyfer cyhoeddi mynediad agored (PLOS, Wiley a Biomed Central).


Yn 2015 roedd ein digwyddiad ar gyfer yr Wythnos Mynediad Agored yn canolbwyntio ar archwilio cyfleoedd ar gyfer cyhoeddi sefydliadol a chroesawyd Graham Stone (Rheolwr Adnoddau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Huddersfield sydd hefyd yn rheoli Cadwrfa'r Brifysgol a Gwasg Prifysgol Huddersfield), Anthony Cond (Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Lerpwl) ac Andrew Barker (Pennaeth Cyswllt Academaidd a Chasgliadau Arbennig ac Archifau Llyfrgell Prifysgol Lerpwl).   Fe drefnom hefyd sesiwn arbennig ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig yng nghwmni Jonathan England, myfyriwr PhD yn Ysgol Gwyddorau Biolegol Bangor, gan wahodd Dr Alecia Carter o Brifysgol Caergrawnt fel siaradwraig wadd.

Croeso

Croeso i flog newydd y Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau ar gyfer Cefnogaeth Ymchwil.

Ein bwriad yw cyhoeddi negeseuon blog yn rheolaidd er mwyn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi ynglŷn â thueddiadau a pholisïau mewn Cyhoeddi Mynediad Agored, Rheoli Data Ymchwil, a rhoi manylion am y gefnogaeth sydd ar gael gan Wasanaeth Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor.


Mae'r blog hwn yn ategiad i brif flog y Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau: Y Llechen: http://llyfrgellprifysgolbangor.blogspot.co.uk/