Hoffem gyflwyno hanes byr am y gwaith o ddatblygu cyhoeddi
mynediad agored ym Mhrifysgol Bangor ar y thema "Open in Action" ar
gyfer Wythnos Mynediad Agored Rhyngwladol 2016.
Os hoffech anfon unrhyw sylwadau atom am yr erthygl hon neu os hoffech
rannu eich myfyrdodau eich hun ynglŷn â chyhoeddi mynediad agored ym Mangor,
cysylltwch â ni yn repository@bangor.ac.uk a byddwn yn cyhoeddi eich sylwadau
ar y blog.
Mae'r erthygl yma yn egluro'r hyn sydd wedi bod yn
digwydd ym Mangor, mae'r erthygl flaenorol yn rhoi llinell amser byr
iawn o gyhoeddi mynediad agored yn y DU.
Yn 2005, dechreuodd Claire Davis, Rheolwr Asesu Ymchwil (y
Swyddfa Ymchwil a Menter) gronfa ddata mynediad caeedig mewnol i gofnodi'r holl
waith a gyhoeddwyd gan staff Prifysgol Bangor (datblygwyd y gronfa wedyn gan y
Swyddfa Ymchwil a Menter a Gwasanaethau TG fel y system CRIMS mewnol). Roedd y gronfa ddata cyhoeddiadau yn hanfodol
at ddibenion asesu ymchwil ac adroddiadau allanol, ac roedd yn cynnwys
cofnodion llyfryddol manwl, wedi eu dilysu a'u cyfoethogi, ond nid oedd yn
cynnwys mynediad agored i gopïau testun llawn. Dechreuwyd project i fwydo'r
cofnodion llyfryddol i gadwrfa DSpace gyda'r nod o ychwanegu copïau testun
llawn lle bo hynny'n bosib, ond oherwydd diffyg staffio a buddsoddiad nid oedd
modd cysylltu'r cofnodion â chopïau testun llawn ar y pryd.
Yn 2012, sefydlodd Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Prifysgol Bangor weithgor ar gyhoeddi mynediad agored; lansiwyd cyfres newydd o
we-dudalennau llawn gwybodaeth am fynediad agored; a drafftiwyd polisi cyhoeddi
newydd ar gyfer y brifysgol oedd yn annog ymchwilwyr Bangor i gyhoeddi trwy
fynediad agored. Arweiniwyd y gwaith hwn
gan Sue Hodges (Cyfarwyddwr y Gwasanaeth
Llyfrgell ac Archifau) a Tracey Middleton (Rheolwr Gwasanaethau a Datblygiadau
Digidol erbyn hyn a Llyfrgellydd Adnoddau Electronig ar y pryd).
Yn 2013, gwnaeth Graham Worley (Cydlynydd Ymchwil,
Gwasanaethau TG) a Dr Beth Hall (Llyfrgellydd Cefnogi Ymchwil, y Gwasanaeth
Llyfrgell ac Archifau) adolygiad trylwyr o feddalwedd cadwrfa a chynnig y dylid
symud tuag at gadwrfa E-prints mynediad agored yn hytrach na cheisio adfywio'r
gadwrfa DSpace wreiddiol. (Roedd y penderfyniad hwn yn seiliedig i raddau helaeth
ar ofynion yr ESRC ar gyfer rheoli data ymchwil o 1 Mai 2015 ymlaen). Mewnforiwyd data o gronfa ddata
cyhoeddiadau'r Swyddfa Ymchwil a Menter a'u bwydo i E-Prints.
Yn 2013, y flwyddyn gyntaf a gawsom gyllid grant bloc gan yr
RCUK, roeddem yn anelu at sicrhau bod yr holl weithiau a gyllidwyd gan yr RCUK
ar gael trwy fynediad agored trwy'r llwybr Aur gan nad oedd y llwybr Gwyrdd ar
gael i ymchwilwyr Bangor tan 2014 pan lansiwyd y gadwrfa E-Prints newydd, sef
eBangor. Yn 2014, ymunodd Dr Michelle
Walker a'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd ac Archifau mewn swydd newydd fel Rheolwr
Cadwrfa a Data Ymchwil (roedd Michelle yn Swyddog Cyhoeddiadau yn y Swyddfa
Ymchwil a Menter cyn hynny). Dechreuodd Michelle, ynghyd â Marjan Baas-Harmsma
a fu'n gweithio ar y project dros gyfnod mamolaeth, y broses o gysylltu'r
cofnodion llyfryddol â chopïau testun llawn yn y gadwrfa newydd, eBangor.
Mae hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth ymhlith staff academaidd
ym Mhrifysgol Bangor o opsiynau cyhoeddi trwy fynediad agored a gofynion cyllidwyr
wedi bod yn hanfodol. Ers 2012, rydym
wedi ymweld ag ysgolion a cholegau'r brifysgol, wedi arwain sesiynau hyfforddi
trwy gyfrwng rhaglenni hyfforddi ysgolion i staff a myfyrwyr doethurol, wedi
rhoi cyflwyniadau i Grŵp Tasg Strategaeth Ymchwil y brifysgol ac wedi parhau i
eirioli dros fynediad agored ar bob cyfle.
Rydym hefyd wedi trefnu digwyddiadau blynyddol gyda siaradwyr gwadd
gwych ar gyfer yr Wythnos Mynediad Agored Rhyngwladol.
Rydym wedi elwa o gytundebau rhwng JISC a nifer o gyhoeddwyr
i wrthbwyso taliadau mynediad agored, yn enwedig SAGE o 2012 ymlaen. Rydym hefyd wedi elwa o gynllun talebau
mynediad agored y Gymdeithas Gemeg Frenhinol i'w tanysgrifwyr "pecyn
Aur". Rydym yn parhau i drafod â chyhoeddwyr ynglŷn â gwrthbwyso costau
mynediad agored wrth adnewyddu tanysgrifiadau.
Rydym yn gwneud defnydd o'r cytundeb mynediad agored rhagorol gyda
Springer a byddem yn hoffi sicrhau mwy o gytundebau tebyg gyda chyhoeddwr
eraill.
Mewn ymateb uniongyrchol i'r gofynion REF newydd ar gyfer
mynediad agored, a fydd yn berthnasol i gyhoeddiadau o fis Ebrill 2016, rydym
wedi gweld cynnydd yn nifer yr eitemau a anfonir i'r gadwrfa.
Yn ystod 2016 rydym hefyd wedi bod yn defnyddio PURE, system
reoli gwybodaeth ymchwil traws-brifysgol.
Claire Davis (Swyddfa Ymchwil a Menter), Michelle Walker (Gwasanaeth
Llyfrgell ac Archifau) a Graham Worley (Gwasanaethau TG) sy'n arwain y gwaith o
roi'r system newydd hon ar waith ar draws y brifysgol. Mae PURE yn dod â
gwybodaeth ymchwil o ffynonellau mewnol ac allanol ynghyd ac yn hwyluso dull
wedi'i seilio ar dystiolaeth o ymdrin â strategaethau ymchwil a chydweithredu,
ymarferion asesu, cydymffurfio â gofynion mynediad agored RCUK a HEFCE ac
amlygrwydd gweithgaredd ymchwil cyfredol.
Rydym wedi symud pob cyhoeddiad ymchwil o eBangor i PURE. Mae defnyddio PURE fel y feddalwedd newydd
i'r gadwrfa yn ei gwneud yn haws i dîm y gadwrfa reoli'r llif gwaith, ac mae
hefyd yn caniatáu i ymchwilwyr lwytho eu cyhoeddiadau eu hunain i'r system a
rheoli eu proffil cyhoeddus eu hunain ar borth ymchwil y brifysgol
http://research.bangor.ac.uk.
Eleni, ailysgrifennodd Dr Michelle Walker bolisi
cyhoeddiadau brifysgol fel polisi mynediad agored ac fe'i cymeradwywyd gan
Bwyllgor Gweithredu'r brifysgol ac rydym yn gobeithio y caiff pob erthygl mewn
cyfnodolion a phob papur cynhadledd eu cyhoeddi trwy fynediad agored maes o
law.
Rydym hefyd yn edrych ymlaen gyda diddordeb at ddatblygiadau
mewn cyhoeddi llyfrau mynediad agored; rydym eisoes yn cefnogi'r cynllun
"Knowledge Unlatched", lle mae nifer o lyfrgelloedd o bob cwr o'r byd
yn rhannu'r taliad am un ffi teitl i gyhoeddwr, er mwyn i'r llyfr fod ar gael
trwy fynediad agored. Rydym hefyd
wrthi'n ymchwilio i opsiynau cyhoeddi sefydliadol "mewnol", ac rydym
eisiau sicrhau bod mwy o ddata ymchwil Bangor yn cael ei gyhoeddi trwy fynediad
agored.
Os nad ydych wedi eich argyhoeddi eto o fanteision cyhoeddi
trwy fynediad agored, yna edrychwch ar yr adroddiad hwn ar y cynnydd yn y
dyfyniadau o erthyglau mynediad agored: http://dx.doi.org/10.1371/journal.pbio.0040157
a gwyliwch yr ymchwilwyr hyn yn siarad am pam eu bod yn dewis cyhoeddi trwy
fynediad agored:
https://www.youtube.com/watch?v=g2JT23E1bRE&feature=related
Cyfeiriadau:
Eysenbach, G., 2006. Cynnydd yn y dyfyniadau o erthyglau
mynediad agored. PLoS Biol, 4(5), p.e157.
http://dx.doi.org/10.1371/journal.pbio.0040157
No comments:
Post a Comment