Mae'r neges blog hon yn rhoi
llinell amser fer iawn o Gyhoeddi Mynediad Agored yn y Deyrnas Unedig a bydd y
negeseuon nesaf yn y gyfres hon yn rhoi manylion am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd
mewn perthynas â chyhoeddi Mynediad Agored ym Mhrifysgol Bangor.
Er mwyn amlygu'r ffaith fod
rhannu ymchwil yn agored wedi bod yn norm mewn rhai disgyblaethau ers tro byd,
beth am fynd yn ôl i 1991 pan ddatblygwyd archif ar-lein o bapurau ffiseg cyn
eu hargraffu: arXiv.org. Ers 1991, dros
nifer o flynyddoedd mae'r mudiad Mynediad Agored wedi mynd o nerth i nerth ac
yn 2001, arwyddodd 34,000 o ysgolheigion ledled y byd "Lythyr Agored at
Gyhoeddwyr Gwyddonol" yn galw arnynt i sefydlu llyfrgell gyhoeddus ar-lein
er mwyn i allbynnau ymchwil mewn meddygaeth a gwyddorau bywyd fod ar gael am
ddim. Arweiniodd hyn at sefydlu'r Public
Library of Science (PLOS). Yn 2002,
cynhaliwyd Menter Mynediad Agored yn Budapest pan arwyddodd gwyddonwyr gytundeb
i roi blaenoriaeth i gyhoeddi eu canfyddiadau mewn cyfnodolion mynediad agored;
ac yn 2003, cyhoeddwyr Datganiad Berlin ynglŷn â Mynediad Agored at Wybodaeth
yn y Gwyddorau a'r Dyniaethau.
Mae llyfrgelloedd academaidd wedi
bod ar flaen y gad o ran hyrwyddo mudiad Mynediad Agored; yn bennaf oherwydd
costau cynyddol beunyddiol cyhoeddwyr am danysgrifio ynghyd â chyllidebau llai
y sefydliadau academaidd. Ond câi hyn ei
sbarduno hefyd gan swyddogaeth llyfrgelloedd yn hyrwyddo rhannu gwybodaeth er
lles y cyhoedd yn ehangach.
Ers yn gynnar yn negawd cyntaf y
mileniwm hwn, rydym wedi gweld cynnydd cyson yn nifer yr allbynnau ymchwil sy'n
cael eu cyhoeddi mewn cyhoeddiadau mynediad agored gan academyddion yn y
Deyrnas Unedig, a chynnydd yn nifer y cadwrfeydd sefydliadol sy'n rhoi opsiwn
"Cyhoeddi Mynediad Agored Gwyrdd' i ymchwilwyr (sef rhoi llawysgrif y
mae'r awdur yn fodlon â hi yn fyw yng nghadwrfa'r sefydliad wedi i gyfnod
embargo'r cyhoeddwyr ddod i ben). Ar ddiwedd 2007, roedd gan OpenDOAR (rhestr o
gadwrfeydd mynediad agored ledled y byd fel a ddarparwyd gan SHERPA y mae ei
ansawdd wedi ei sicrhau) 1,009 o gadwrfeydd ar y gofrestr, erbyn mis Gorffennaf
2016 roedd y nifer honno wedi codi i 3,201 o gadwrfeydd ledled y byd (mae'r
rhestr hon yn cynnwys cadwrfeydd pwnc-benodol a rhai sefydliadol).
Ym mis Mehefin 2012, cyhoeddodd y
Finch Group (Gweithgor ar Ehangu Mynediad at Ganfyddiadau Ymchwil wedi eu
Cyhoeddi, dan gadeiryddiaeth y Fonesig Janet Finch) eu hadroddiad terfynol a
oedd yn cefnogi'r achos dros gyhoeddi mynediad agored trwy gyfrwng rhaglen
gytbwys o weithredu, ac roedd argymhelliad yn benodol i gefnogi 'r "Llwybr
Aur" tuag at fynediad agored.
Derbyniodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig bob un o argymhellion adroddiad
Finch a gofyn i gyrff ariannu addysg uwch yn y Deyrnas Unedig ac i Cynghorau
Ymchwil y DU (RCUK) weithredu ar yr argymhellion. Mae polisi'r RCUK yn cefnogi'r llwybrau Aur a
Gwyrdd tuag at fynediad agored, ond maent yn hyrwyddo'r llwybr aur yn bennaf
drwy ddyrannu bloc o arian grant i bob sefydliad ymchwil yn y Deyrnas Unedig
gan ddechrau ym mis Ebrill 2013.
Mae JISC wedi bod yn cefnogi'r
sector yn llwyddiannus o ran cyhoeddi Mynediad Agored drwy gytuno â nifer o
gyhoeddwyr i wrthbwyso ffioedd mynediad agored (ffioedd prosesu erthyglau) gyda
thanysgrifiadau drud i becynnau o gyfnodolion. Ers mis Hydref 2015 daeth JISC
Collections a Springer i gytundeb i ganiatáu i ymchwilwyr yn y Deyrnas Unedig
gyhoeddi erthyglau mynediad agored mewn mwy na 1,600 o gyfnodolion Springer heb
unrhyw gostau na rhwystrau gweinyddol
Ym mis Ebrill 2016, daeth polisi
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr ar fynediad agored i rym, gan ei gwneud yn
ofynnol bod ymchwilwyr yn rhoi mynediad agored at unrhyw erthyglau y maent
eisiau eu cyflwyno i'r ymarfer asesu ymchwil nesaf.
Cyfeiriadau:
1. http://www.openaccessweek.org/profiles/blogs/open-access-week-2011-a-short-history-of-open-access
No comments:
Post a Comment